Rydym ni,
sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i newid Cwricwlwm yr Iaith Gymraeg mewn
ysgolion uwchradd; er mwyn annog y defnydd o’r iaith Gymraeg
ar ffurf sgyrsiol yn hytrach nag ar ddysgu Cymraeg i basio
arholiad.
Gwybodaeth ychwanegol: Rydym ni, fel disgyblion mewn ysgol uwchradd
yng Nghymru, yn credu nad yw’r system bresennol o ddysgu
Cymraeg yn annog dysgu gydol oes ar gyfer bywyd go iawn y tu allan
i’r ysgol. Credwn nad yw’r ffocws presennol ar basio
arholiad yn mynd i’r afael yn effeithiol â’r
defnydd o Gymraeg go iawn ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn
gadael yr ysgol ac yn anghofio’r rhan fwyaf o’r hyn
maent wedi’i ddysgu yn ystod eu plum mlynedd o addysg
uwchradd. Rydym eisiau i’r Cynulliad fynd i’r afael
â’r mater o ddysgu Cymraeg gydol oes mewn ysgolion
uwchradd Saesneg eu cyfrwng er mwyn cadw’r iaith Gymraeg yn
fyw ledled y wlad. Credwn fod angen gwneud y newid hwn cyn bo hir
cyn bod difrod na ellir ei ddadwneud yn digwydd a bod yr iaith
Gymraeg yn datblygu’n iaith ar gyfer arwyddion ffyrdd ac
amgueddfeydd.
Prif ddeisebydd: Eva Bowers a Lauren Davies
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 19